Ysgol Dyffryn Nantlle

Hafan > Gwybodaeth > Estyn

Estyn

Datganiad Cadeirydd y Llywodraethwyr

Annwyl Gyfeillion,

Gyda balchder rwyf yn adrodd i chi am ymweliad Estyn i Ysgol Dyffryn Nantlle yn Mis Tachwedd 2022.  Mae’r adroddiad yn adnabod cryfderau yr ysgol ac yn cadarnhau bod cynlluniau’r ysgol i’r dyfodol yn rhai addas a chadarnhaol. Adnabuwyd ymarfer da iawn ar draws yr ysgol a bod y dysgwyr yn ganolbwynt yr ysgol. Cyfeiriwyd yn benodol at gyfraniad disgyblion at fywyd ysgol ac cyfeiriodd yr arolygwyr at agosatrwydd plant Ysgol Dyffryn Nantlle a disgrifiwyd hyn fel rhywbeth cwbl unigryw.

Ers Mis Medi 2022 mae’r ysgol dan ofal ein pennaeth newydd ac mae cynlluniau cadarn mewn lle ers dechrau’r tymor hwn. Roedd gwaith caled ar droed cyn ymweliad Estyn ond mae’n deg cydnabod bod gwaith anhygoel wedi cymryd  lle yn arwain at ymweliad Estyn a hynny mewn amserlen dynn iawn. Mae’r pennaeth wedi disgrifio imi y gefnogaeth dderbyniodd gan bob aelod o staff ac yn enwedig gan yr Uwch Dîm.

Fel Cadeirydd y Corff Llywodraethwyr rwyf yn llongyfarch yr ysgol ar dderbyn adroddiad gadarnhaol a chalonogol. Rwyf yn diolch yn ddiffuant iawn i holl staff yr ysgol am eu hymroddiad i sicrhau’r llwyddiant yma. Yn bennaf oll rwyf yn diolch i ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle am sicrhau bod arolygwyr Estyn yn ffarwelio a’n ysgol gan wirioneddol gredu bod ‘Nunlle fel Nantlle’.

Cofion

Sara Lloyd Evans
(Cadeirydd y Llywodraethwyr)

 

Datganiad gan y Pennaeth

Annwyl aelod o gymuned Ysgol Dyffryn Nantlle,

Rydw i’n falch iawn o gael cyhoeddi Adroddiad Arolwg diweddar Ysgol Dyffryn Nantlle i’ch sylw. Fel ysgol, rydym yn ymfalchïo’n fawr yn yr adroddiad hwn gan fod Estyn wedi cydnabod ac wedi canmol cryfderau, gwelliannau a datblygiadau cadarnhaol diweddar yr ysgol ac wedi cadarnhau pa mor hapus a diogel mae ein disgyblion a staff yn teimlo o ganlyniad i gryfder ac effeithiolrwydd ein cyfundrefn llesiant a diogelu. Braf hefyd oedd clywed ein disgyblion, yn enwedig disgyblion ein Chweched Dosbarth, yn cael eu canmol am y cyfraniad gwerthfawr maen nhw’n ei wneud i gymuned yr ysgol. 

Mae gennym gynlluniau gweithredu cadarn ar waith eisoes i ymateb i argymhellion Estyn ac edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu a lledaenu’r arferion da a adnabuwyd er mwyn parhau i wella’r darpariaeth addysgol a’r profiadau sydd ar gael i’n disgyblion ac i aelodau o gymuned yr ysgol. Hoffwn ddiolch i chi i gyd unwaith eto am eich holl gefnogaeth yn ystod y tymor diwethaf ac edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio efo chi i barhau i wireddu ein gweledigaeth o ‘greu ysgol uwchradd gynhwysol unigryw sy’n sicrhau llwyddiant personol i’w holl ddisgyblion a’i staff mewn awyrgylch gefnogol a diogel. “Nunlle fel Nantlle”- Llwyddo Gyda’n gilydd!’

Atodaf y crynodeb o’r adroddiad mewn Cymraeg a Saesneg i’ch sylw a bydd modd i chi weld copi o’r adroddiad llawn ar wefan yr ysgol.

Yn gywir

Rhian Parry Jones
(Pennaeth)

Adroddiad Estyn Tachwedd 2022

Bydd modd i unrhyw un sy’n dymuno cael copi papur mewn Cymraeg neu Saesneg wneud cais am gopi papur drwy brif swyddfa’r ysgol.

Crynodeb yr adroddiad i rieni a gofalwyr