Ysgol Dyffryn Nantlle
Annwyl Aelod o Gymuned Ysgol Dyffryn Nantlle,
Mae Ysgol Dyffryn Nantlle yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn ysgol naturiol Gymraeg sy’n ymroddedig i ddarparu addysg o’r radd flaenaf i ddisgyblion 11 - 19 mlwydd oed ardal Penygroes mewn awyrgylch gefnogol a diogel. Mae’r ysgol yn cyd-weithio gyda holl aelodau cymuned yr ysgol i gyfrannu at barhau i ddatblygu’r ethos Cymreig, i sicrhau profiadau addysgol o’r radd flaenaf, ac i greu pobl ifanc gwydn, sydd â'r sgiliau, yr agweddau a'r gwerthoedd i fod yn unigolion llwyddiannus a fydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r gymdeithas hon a thu hwnt am flynyddoedd i ddod.
Ein gweledigaeth yw:
Creu ysgol uwchradd gynhwysol unigryw sy’n sicrhau llwyddiant personol i’w holl ddisgyblion a’i staff mewn awyrgylch gefnogol a diogel.
“Nunlle fel Nantlle”- Llwyddo Gyda’n gilydd!
Trwy ddyfynnu geiriau un o ddisgyblion cynradd y dalgylch, “Nunlle fel Nantlle” (“Nunlla fel Nantlla!”) rydym yn dangos bod llais y disgybl yn ganolog i unrhyw weithredu neu ddatblygiadau yn yr ysgol. Hefyd, drwy nodi’r geiriau ‘llwyddo gyda’n gilydd’ rydym yn pwysleisio bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn greiddiol i lwyddiant yr ysgol.
Credwn y dylai bob disgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle gael ei addysgu mewn system sy’n pennu disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddysgwyr ac athrawon. Rydym yn cydnabod y bydd disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle yn ymuno â byd sy’n newid yn gyflym ac sy’n gynyddol gystadleuol, yn gysylltiedig yn fyd-eang, ac yn ddatblygiedig o ran technoleg, felly, mae’n ddyletswydd arnom i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer swyddi nad ydynt yn bodoli eto ac am heriau nad ydynt wedi eu hwynebu eto.
Mae pob aelod o gymuned Ysgol Dyffryn Nantlle yn gyfrifol am sicrhau bod bob disgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle yn cael cyfle cyfartal i lwyddo a gyda’n gilydd, rydym yn ymdrechu i wireddu’r geiriau
“Nunlle fel Nantlle”- Llwyddo gyda’n gilydd!
Yn gywir,
Rhian Parry Jones B.A. Anrh., M. Addysg