Ysgol Dyffryn Nantlle

Hafan > Gwybodaeth > Cwricwlwm i Gymru

Cwricwlwm i Gymru

Gwybodaeth am y ffordd mae ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach wedi cael eu cynnwys wrth ddatblygu’r cwricwlwm.

Llunio’r Weledigaeth

Lluniwyd gweledigaeth Ysgol Dyffryn Nantlle dros gyfnod o flwyddyn drwy ymgynghori â’r gwahanol rhanddeiliaid sef y disgyblion, y rhieni, staff yr ysgol a’r llywodraethwyr. Drwy gyfarfodydd â’r Cyngor ysgol, holiaduron i’r rhieni, trafodaethau gyda’r llywodraethwyr a diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd, crëwyd y drafft terfynol. Lansiwyd yr weledigaeth ym mis Medi 2022 o dan arweiniad y Pennaeth newydd a rhennir hi’n gyson â’r holl rhanddeiliaid drwy wasanaethau’n yr ysgol, cyflwyniadau’n ystod cyfnodau cofrestru, unrhyw ohebiaeth gyda’r rhieni ac ar gyfrifon ein gwefannau cymdeithasol.

 

Mae’r weledigaeth yn sail i bob rhan o fywyd yr ysgol sef:

Creu ysgol uwchradd gynhwysol unigryw sy’n sicrhau llwyddiant personol i’w holl ddisgyblion a’i staff mewn awyrgylch gefnogol a diogel.

Nunlle fel Nantlle”- Llwyddo Gyda’n gilydd!

Yn ogystal, trwy wahanol gyfarfodydd a holiaduron, gofynnwyd i’r holl rhanddeiliaid gan gynnwys y disgyblion, y llywodraethwyr, staff, a‘r rhieni ystyried nifer o gwestiynau er mwyn cytuno ar yr hyn y dylai pob disgybl ei wybod a gallu ei wneud, a pha sgiliau a gwerthoedd y dylent eu datblygu’n ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

1. Beth sydd angen ar y disgyblion ar eu taith drwy’r Ysgol?

Profiadau

Dylent:

  • dderbyn addysg o’r safon uchaf mewn amgylchedd ddiogel a braf, gan staff sydd yn ymfalchïo ynddynt ac yn trin pawb yn deg. 
  • ddatblygu fel unigolion drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau bythgofiadwy ac amrywiol y tu mewn ac y tu allan i’r ystafell ddosbarth. 
  • gael cyfleoedd i ymweld ag ardaloedd a phobl newydd, a chymryd rhan mewn profiadau sy’n cyfoethogi eu bywydau.  

Cefnogaeth

Dylent:

  • ymwneud â phobl y maent yn gallu ymddiried ynddynt, boed yn athrawon, staff, rhieni neu’r gymuned gyfan. 
  • fod yn rhan o ysgol sy’n rhoi arweiniad cryf, disgyblaeth gadarn a chyson, gydag adnoddau cyfredol a modern sy’n ysbrydoli’r disgyblion. 
  • fod yn rhan o ysgol lle mae pawb yn gael chwarae teg a phob cyfle i lwyddo, ble mae llwyddiannau a thalentau’r disgyblion yn cael eu canmol a’u dathlu.  

Sgiliau

Dylent:

  • gael cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau hanfodol sydd angen arnynt ar gyfer eu dyfodol. 
  • allu datblygu fel dysgwyr annibynnol, uchelgeisiol mewn  awyrgylch sy’n annog amgylchedd greadigol ac unigryw.   

Meddylfryd

Dylent:

  • gael cyfle i ddatblygu fel unigolion mentrus, sydd eisiau derbyn heriau, sydd yn gallu dangos gwytnwch, ac yn anelu’n uchel gyda gweledigaeth am ddyfodol cadarnhaol

2. Sut mae modd i’r Meysydd Dysgu a Phrofiad eu cynorthwyo ar eu taith?

Sicrhau cyfleoedd i’r disgyblion ddatblygu nid yn unig eu sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol, ond hefyd sgiliau ymarferol ar draws y pynciau.  Bydd blaenoriaeth yr ysgol ar roi profiadau eang i ddisgyblion y tu mewn ac y  tu allan i’r ystafell ddosbarth a datblygu cysylltiadau agos gyda rhieni a’r gymuned.  Bydd y Meysydd yn cefnogi disgyblion, yn eu hannog, eu gwobrwyo ac yn eu disgyblu ar draws eu taith addysgol. 

3. Pa brofiadau a chyfleoedd y dylid eu cynnig i’r disgyblon?

  • Gwersi o ansawdd ac addysgu da, sy’n rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu’n annibynnol.
  • Clybiau er mwyn datblygu hunan hyder, iechyd meddwl a lles y disgyblion e.e. Clwb Brecwast, Clwb Darllen, Gwyddoniaeth, Gwaith Cartref, Amgylcheddol, Garddio, Celf, Cerdd
  • Cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau tîm – Sioe Gerdd, Eisteddfod, timau Addysg Gorfforol
  • Teithiau cerdded
  • Gweithdai a siaradwyr ysbrydoledig.
  • Rhieni i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r disgyblion.
  • Cyfleoedd i wirfoddoli a helpu’r gymdeithas leol.
  • Profiad Gwaith a ffug gyfweliadau.
  • Ymweliadau a theithiau allgyrsiol a phrofiadau sy’n ehangu gorwelion y disgyblion.
  • Cymorth ynglŷn â sut i brynu/rhentu tai, trefnu morgeisi, byw yn annibynnol, rheoli arian.
  • Gwybodaeth am wleidyddiaeth ac etholiadau.
  • Cymorth Cyntaf.

4.Beth sydd yn bwysig i’r disgyblion a’r gymuned?

Delwedd bositif o’r Ysgol, a thrwy hynny, y disgyblion, y gymuned a’r ardal leol.  Bydd hyn yn cael ei gyrraedd drwy sicrhau ysgol daclus a glân, ble mae’r disgyblion yn cymryd balchder yn eu delwedd bersonol drwy wisgo gwisg ysgol briodol.  Bydd disgyblion yn gweld gwerth yn eu haddysg, yn ymwybodol bod eu lleisiau yn cael eu clywed, a bod athrawon yr Ysgol yn eu trin yn garedig a theg. 

Bydd perthynas agos a chadarnhaol rhwng yr Ysgol a’r gymuned a bydd y disgyblion yn chwarae rôl flaenllaw yn hyn.  Bydd yr ysgol yn ganolog i’r gymuned, lle mae disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned leol yn dod at ei gilydd i rannu llwyddiannau’r ardal.  

 

 

5. Pa bartneriaid  a fyddai’n gallu cyd-weithio gyda’r Ysgol?

  • Busnesau Lleol
  • Cymdeithasau
  • Sefydliadau Addysgol
  • Y Gymuned

Sut mae’r cwricwlwm yn bodloni elfennau gofynnol y Cwricwlwm i Gymru, gan ddechrau gyda’r pedwar diben?

Mae cwricwlwm Ysgol Dyffryn Nantlle yn addas ar gyfer pob disgybl ac mae’n eu galluogi i wireddu’r Pedwar Diben. Mae’n ystyried ac yn ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau unigryw sy’n cyflwyno eu hunain i unigolion a grwpiau o ddisgyblion yn ein hysgol.

Mae cwricwlwm ein hysgol yn eang a chytbwys ac yn cynnwys cyfleoedd dysgu o fewn ac ar draws pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Mae’n cwmpasu’r cysyniadau yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn darparu cynnydd priodol yn unol ag egwyddorion cynnydd. Mae hefyd yn cyd-fynd â gofynion gorfodol addysgu Cymraeg, Saesneg, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) a’r elfennau gorfodol o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh). Mae sgiliau trawsgwricwlaidd Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol a themâu Trawsgwricwlaidd Amrywiaeth, Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Byd Gwaith, Cyd-destunau Lleol, Cenedlaethol a Rhyngwladol ac Addysg Hawliau Dynol wedi’u hymwreiddio drwy’r Cwricwlwm.

Gwybodaeth am sut mae’r ysgol yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a’i threfniadau asesu.

Yn Ysgol Dyffryn Nantlle mae cynnydd ac asesu yn allweddol i sicrhau ein bod yn cyflawni gweledigaeth ein hysgol. Yn sail i gwricwlwm ein hysgol mae’r Egwyddorion Cynnydd mandadol sy’n disgrifio yr hyn mae disgwyl i ddisgyblion ei wneud i brofi cynnydd, a’r galluoedd a’r ymddygiadau y bydd ein staff yn ceisio’u cefnogi, waeth beth fydd cam datblygiad y disgybl. Caiff ein trefniadau asesu eu llywio gan yr egwyddorion cynnydd hyn. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu ar sail tystiolaeth i alluogi disgyblion unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol. Rydym yn sicrhau bod ein prosesau yn nodi disgyblion sydd angen cymorth neu her bellach ac yn darparu gwybodaeth ansoddol gyfoethog i ni er mwyn llywio’r camau nesaf mewn dysgu ar gyfer unigolion a grwpiau o ddisgyblion. Mae ein trefniadau asesu yn sicrhau ymgysylltiad gweithredol rhwng disgyblion ac athrawon ac mae’n seiliedig ar fyfyrio parhaus ar leoliad disgybl, beth yw ei gamau nesaf a beth sydd ei angen i’w gefnogi i gyflawni’r rhain.

 

Sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei adolygu’n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth a diwygio’r cwricwlwm yn barhaus.

Bydd Cwricwlwm Ysgol Dyffryn Nantlle yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein disgyblion. Drwy gydol y flwyddyn bydd amrywiaeth o weithgareddau hunanwerthuso i lywio ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd ein cwricwlwm a’r adolygu gofynnol. Byddwn yn gweithio o fewn ein hysgol, ar draws y dalgylch ac mewn partneriaeth â llywodraethwyr, y consortia rhanbarthol, y gynghrair, yr awdurdod lleol a thu hwnt i ddatblygu ymhellach ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac i sicrhau continwwm dysgu 3-16oed o ansawdd uchel i bawb.