Hafan > Gwybodaeth > Diwrnod Canlyniadau
Diwrnod Canlyniadau
Trefniadau casglu canlyniadau TGAU
Hoffem ddymuno pob lwc i’n holl ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 fydd yn derbyn eu canlyniadau yfory!
Bydd y canlyniadau TGAU yn cael eu dosbarthu yn CL1 (Derbynfa Ysgol) i ddisgyblion blwyddyn 11 am 9yb a blwyddyn 10 am 10yb ddydd Iau, 24/08/23. Bydd aelodau o staff ar gael yfory i’ch tywys drwy’r broses ac i’ch cynghori fel bo’r angen, felly ceisiwch beidio â phoeni!
Mae eich cyfraniad i’r ysgol dros y blynyddoedd wedi bod yn werthfawr iawn a gobeithiwn weld ein disgyblion Blwyddyn 11 yn y Ganolfan Ddysgu am un o’r gloch ar 01/09/23 er mwyn cofrestru i ddod yn ôl atom i barhau ar gam nesaf eich addysg yma yn Chweched Dosbarth Ysgol Dyffryn Nantlle.
Diolch a dymuniadau gorau i bob un ohonoch ar eich pennod nesaf, boed hynny yn Ysgol Dyffryn Nantlle, yn y coleg neu ym myd gwaith!
Mrs Parry Jones(Pennaeth)