Hafan > Rhieni > Gwaith Cartref
Gwaith Cartref

Beth yw Class Charts i Rieni?
(Class Charts for Parents)
Byddwch yn gallu defnyddio Class Charts i gadw cofnod o gyflawniadau'ch plentyn, mynediad i adroddiadau ymddygiad yn ogystal â thracio tasgau gwaith cartref.
Os oes gennych fwy nag un plentyn yn yr ysgol, gallwch ddefnyddio'r un cyfrif rhiant i weld manylion pob un ohonynt.
Gallwch ymweld â ClassCharts i rieni drwy ymweld â'r wefan, neu ar appiau iOS ac Android
Côd Rhiant
Bydd yr ysgol yn anfon côd rhiant i'ch ffôn symudol, bydd hwn yn debyg i'r côd isod:
CÔD ENGRHEIFFTIOL
ASKFT34
Caiff y côd yma'i ddefnyddio i osod eich cyfrif rhiant. Gellir rhannu'r côd yma rhwng rhieni / gwarchodwyr oherwydd gall greu mwy nag un cyfrif rhiant hefo cyfrifon ebyst gwahanol.