Ysgol Dyffryn Nantlle

Hafan > Rhieni > Nosweithiau Rhieni

Nosweithiau Rhieni

Cyfarfodydd ar safle'r ysgol

Caiff y nosweithiau rhieni eu cynnal yn neuadd yr Ysgol. Bydd pob disgybl yn derbyn ffurflen archebu amser hefo'r athrawon o leiaf wythnos ymlaen llaw.  Byddwch hefyd yn derbyn neges destun. 
Mae'r calendr rhieni'n nodi pa ddyddiad fydd nosweithiau pob blwyddyn ysgol. 

 

Nosweithiau rhieni rhithiol

Efallai bydd yr ysgol yn dewis cynnal nosweithiau rhieni rhithiol. Os felly, dilynwch y canllawiau isod: 

Bydd yr ysgol eisioes wedi gyrru ffurflen ddigidol i chi archebu amser drwy neges destun. Cyn mynd ati i archebu amser hefo'r athrawon, hoffwn i chi dreulio rhywfaint o amser yn darllen y wybodaeth isod a gwylio'r fideo sy'n egluro sut fydd y dechnoleg yn gweithio. 

Cam 1 

Er mwyn hwyluso'r broses o fynychu'r noson rhieni rhithiol rydym yn eich argymell i lawrlwytho'r app 'Microsoft Teams' ar eich cyfrifiadur, tabled neu'ch ffôn.

Microsoft Teams

Archebu amser 

Gwyliwch y fideo isod (paratowyd ar gyfer noson rhieni bl 11) er mwyn derbyn arweiniad ar sut i archebu amser hefo’r athrawon ar gyfer y nosweithiau rhieni