Hafan > Gwybodaeth > Cloi Mewn Argyfwng
Cloi Mewn Argyfwng
Ar adegau prin iawn, efallai y bydd angen cau’r ysgol fel nad yw’n bosib i unrhyw un gael mynediad o’r tu allan. Bydd hyn yn sicrhau bod disgyblion, staff ac ymwelwyr yn ddiogel mewn sefyllfaoedd lle mae perygl ar dir yr ysgol neu yng nghyffiniau’r ysgol.
Os fydd yr ysgol yn mynd i sefyllfa o gloi mewn argyfwng, byddwn yn rhoi gwybod i'r rhieni am unrhyw ddigwyddiad neu ddatblygiad cyn gynted ag sy’n ymarferol gwneud hynny drwy'r system Schoolcomms.
Gofynwn i rhieni:
- Beidio cysylltu â'r ysgol. Gallai galw'r ysgol glymu llinellau ffôn sydd eu hangen i gysylltu ar y Gwasanaethau Brys;
- Beidio dod i'r ysgol. Gallent ymyrryd â mynediad y Gwasanaethau Brys i'r ysgol a rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl;
- Aros i'r ysgol gysylltu â nhw ynghylch pryd mae'n ddiogel iddyn nhw ddod i nôl eu plant, ac o le y dylent eu nôl
Mae'r ysgol yn deall bod rhieni'n poeni am les eu plant ac fe fydd popeth posib yn cael ei wneud i sicrhau diogelwch y disgyblion. Fodd bynnag, bydd angen i'r rhieni ddeall os yw'r ysgol mewn sefyllfa Cloi mewn Argyfwng Llawn ni fydd unrhyw un o bosib yn ymateb i alwadau ffôn, bydd y drysau allanol ar glo ac na fydd neb yn cael mynd i mewn nac allan o’r adeilad.