Ysgol Dyffryn Nantlle

Hafan > Rhieni > Gwisg Ysgol

Gwisg Ysgol

Mae gwisg swyddogol yr ysgol yn rhoi cyfle in disgyblion fod yn falch ou hysgol, teimlo eu bod yn perthyn iddi a bod yn barod i gynnal safonau uchel o ymddygiad. Rhestrir rhai or eitemau ar sail diogelwch.

ENW - Mae’n bwysig bod enw’r disgybl yn glir ar bob dilledyn.

GEMWAITH - Nid oes caniatâd ir disgyblion wisgo gemwaith heblawr canlynol: oriawr, un pâr o styds plaen yn y clustiau, un fodrwy blaen ar fys.

COLUR / ADDURNIADAU YN Y GWALLT (a materion eraill) Ni chaniateir gwisgo colur nac addurniadau yn y gwallt.

Annogir disgyblion i beidio dod ag offer electroneg drudfawr ir ysgol. Os oes angen iddynt ddod a ffôn symudol am resymau diogelwch, ni all yr ysgol gymryd cyfrifoldeb amdanynt a bydd angen ir disgybl ei gadw wedi ei ddiffodd ac or golwg yn ystod y diwrnod ysgol.
 

Gwisg Ysgol (Blynyddoedd 7-11)

*Crys polo gwyrdd swyddogol yr ysgol;
*Crys chwys glas tywyll swyddogol yr ysgol;

Sgert ddu hyd at y pen-glin neu Drowsus du** – defnydd: polyester/viscose/gwlân – (dim jeans, legings, gwaelod tracwisg na dim arall.);  Sanau gwyn neu ddu;
Teits – du; Côt – blaen dywyll; Esgidiau – du plaen gyda sodlau isel (Ni chaniateir esgidiau o unrhyw liw arall).

 

* Ar werth yn yr ysgol

** caniateir gwisgo siorts Addysg Gorfforol yr ysgol yn lle trowsus neu sgert yn ystod hanner tymor cyntaf Tymor yr Hydref ac ar ôl y Gwyliau Pasg tan yr Haf.  

Gwerthfawrogir eich cydweithrediad yn fawr

Mae modd archebu gwisg ysgol a gwisg addysg gorfforol ar-lein ar gyfer mis Medi:

Archebu Gwisg