Hafan > Disgyblion > Iechyd a Lles
Iechyd a Lles
Edrych ar ôl fy hun - Gwasanaethau Llesiant Lleol Gwynedd 2021
Yn dilyn cyfnod digon anodd i bawb, sydd wedi cael effaith ar sawl un ohonom, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn edrych ar ôl ein hunain. Mae’r llyfryn yma wedi'i roi at ei gilydd gan nifer o asiantaethau (sydd wedi ffurfio Partneriaeth Iechyd a Lles Gwynedd) er mwyn;
- Rhoi syniadau i chi am sut i edrych ar ôl eich iechyd a lles drwy gyflwyno gwybodaeth ynglŷn â'r hyn sydd ar gael o fewn ein cymunedau.
- Dilyn y model Pum Ffordd at Les (Iechyd Cyhoeddus Cymru) a chael syniadau gwahanol ar sut i edrych ar ôl eich hunain sy’n cyfrannu’n bositif tuag at lesiant meddyliol
Edrych ar ôl fy hun - Gwasanaethau Llesiant Lleol Gwynedd 2021
Stonewall
Mae Stonewall yn falch o ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad ar gynhwysiant LGBTQ+. Maent yn gweithio tuag at fyd lle rydyn ni i gyd yn rhydd i fod. Nid yw hwn yn gyngor cyfreithiol, ac ni fwriedir iddo gymryd lle cwnsler cyfreithiol ar unrhyw bwnc.
(Mwyafrif o'r wefan yn uniaith Saesneg)
Meic Cymru
Meic Meic ydy’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
O ddarganfod beth sydd yn digwydd yn dy ardal leol i helpu ymdrin â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando pan fydd neb arall yn barod i wneud. Nid ydym yn barnu a gallem helpu wrth gynnig gwybodaeth, cyngor defnyddiol a chynnig cefnogaeth i wneud newidiadau yn dy fywyd.
Cysyllta â ni yn Gymraeg neu’n Saesneg – dy ddewis di! Rydym yn agored 8yb i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallet ti gysylltu ar y ffôn, neges destun neu sgwrs ar y we. Rydym yn gyfrinachol ac nid oes rhaid i ti roi enw. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i bawb.
Byw'n iach Cymru
Pwrpas Byw’n Iach yw “Cynnig gwasanaethau hamdden a ffitrwydd cynaliadwy o’r ansawdd uchaf i’n cymunedau, er mwyn gwella iechyd, lles , ffitrwydd a sgiliau pawb.”
Ein gweledigaeth yw “Pob trigolyn yn gwsmer- pob teulu’n gwella eu hiechyd a lles- pob Cymuned yn elwa”.
Cadw’n iach - Canolfan gyfreithiol y Plant Cymru
-
Mae iechyd yn fwy na dim ond meddygon ac ysbytai – mae’n ymwneud â’r ffordd rydych yn byw, ble rydych yn byw a sut mae pobl yn gofalu amdanoch
-
Mae gennych hawliau i wneud yn siŵr y byddwch yn gallu tyfu a datblygu’n iach, a’r gobaith yw y byddwch yn gallu osgoi mynd at y meddyg neu dreulio amser yn yr ysbyty gan amlaf
-
Mae gennych yr hawliau hyn hyd yn oed os ydych yn byw gydag anabledd neu gyflwr sy’n golygu nad yw eich iechyd cystal ag yr hoffech iddo fod
Pa hawliau sydd gennych chi i fod yn iach? Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cynnwys yr hawl i dyfu a datblygu’n iach, i gael bwyd maethlon a dŵr glân, ac i ddeall sut i fod yn ddiogel.
Young Minds
We’re the UK’s leading charity fighting for children and young people's mental health.
We want to see a world where no young person feels alone with their mental health, and all young people get the mental health support they need, when they need it, no matter what.
(uniaith Saesneg)
Mental Health Matters - Wales
Datganiad Cenhadaeth
"Hybu iechyd a lles meddyliol ac emosiynol y cyhoedd trwy ddarparu Gwybodaeth, Eiriolaeth, Hyfforddiant a Chymorth"
(gwefan uniaith Saesneg)
Papyrus
PAPYRUS Atal Hunanladdiad Ifanc yw’r elusen yn y DU sy’n ymroddedig i atal hunanladdiad a hybu iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol pobl ifanc (mae'n bosib newid iaith y wefan i Gymraeg)
Mind Cymru
Mind Cymru ydym ni. Rydyn ni yma i frwydro dros iechyd meddwl. Am gefnogaeth, er parch, i chi.
Rydym yn newid meddyliau ledled Cymru drwy wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth bob dydd.
Rydym yn cefnogi meddyliau – yn cynnig cymorth, gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau lleol.
(Gwefan uniaith Saesneg)
Sgiliau Maeth am Oes
Ein nod yw sicrhau fod gan bobl yng Nghymru y sgiliau, y cyfle a’r hyder i gael gafael ar fwyd sy’n iach, yn fforddiadwy ac yn chynaliadwy, ar gyfer eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.
Talk to Frank
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am gyffuriau, eu heffeithiau a'r gyfraith. Siaradwch â Frank am ffeithiau, cefnogaeth a chyngor ar gyffuriau ac alcohol heddiw.
Comisiynydd Plant Cymru
Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru; mae hi wedi llenwi’r rôl yma ers Ebrill 2022.
Pwrpas ei swydd yw dweud wrth eraill am bwysigrwydd hawliau plant, ac i edrych ar sut mae penderfyniadau cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant.
Mae ganddi hi dîm sy’n gweithio gyda hi er mwyn cyflawni hyn.
Samaritans
Rydyn ni yma i wrando, dim barn, dim pwysau, a'ch helpu chi i weithio trwy'r hyn sydd ar eich meddwl. Ni fyddwn byth yn dweud wrthych beth i'w wneud.
Os oes angen cyngor neu gymorth arbenigol arnoch ar gyfer mater penodol, fel profedigaeth neu gam-drin domestig, rydym wedi llunio rhestr o sefydliadau arbenigol, gan gynnwys eu manylion cyswllt, a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
(gwefan uniaith Saesneg)
Curo Anhwylderau Bwyta
Ni yw elusen anhwylderau bwyta’r DU. Wedi'i sefydlu ym 1989 fel y Gymdeithas Anhwylderau Bwyta, ein cenhadaeth yw rhoi terfyn ar y boen a'r dioddefaint a achosir gan anhwylderau bwyta.
Tîm Cymorth Ieuenctid Gwynedd
Llyfryn gwybodaeth i amlinellu gwaith tîm cymorth ieuenctid Gwynedd
Diogelwch ar-lein
Mae Addysg Cymru wedi creu cyfres o fideos er mwyn cychwyn y sgwrs ynglyn a gwahanol agweddau o ddiogelwch ar-lein.
Beth am siarad am amser o flaen sgrin
Mae'r ffilm hon yn archwilio beth yw amser sgrin, arwyddion i edrych amdanynt, a rhai dulliau y gallwch eu defnyddio i gydbwyso gweithgareddau sgrin a rhai nad ydynt yn sgrin.
Beth am siarad am bornograffi
Nod y ffilm yw eich helpu i ddeall pornograffi ar-lein, beth mae’r ymchwil cyfredol yn ei ddweud, a beth allwch chi ei wneud i reoli hyn a’i drafod gyda’ch plentyn.
Beth am siarad am fwlio ar-lein
Mae’r ffilm hon yn archwilio beth allai gael ei gyfrif fel bwlio ar-lein a chyngor ar sut allwch chi helpu eich plentyn ei herio a’i atal.
Beth am siarad am feithrin perthynas amhriodol ar-lein
Mae’r ffilm hon yn archwilio beth yw meithrin perthynas amhriodol ar-lein. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar dactegau ac arwyddion cyffredin i edrych amdanynt a chyngor ar sut allwch chi helpu eich plentyn cadw’n ddiogel.
Beth am siarad am radicaliaeth ac eithafiaeth
Mae’r ffilm hon yn archwilio radicaliaeth ac eithafiaeth. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar dactegau recriwtio ac arwyddion cyffredin i edrych amdanynt a chyngor ar sut allwch chi ddiogelu eich plentyn rhag cael ei radicaleiddio
Beth am siarad am secstio
Nod y ffilm yw eich helpu i ddeall secstio. Mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer trafod y risgiau gyda’ch plentyn, yn ogystal â chyngor ar beth allwch chi ei wneud os ydynt wedi bod yn rhannu delweddau.