Presenoldeb
Mae ein polisi yn cynrychioli ein hymrwymiad yn Ysgol Dyffryn Nantlle i ymdrechu am 100% o bresenoldeb, sydd yn gyraeddadwy ac yn cael ei gyflawni gan lawer o ddisgyblion. Mae'n nodi'r egwyddorion, y gweithdrefnau a'r arferion y bydd yr ysgol yn eu dilyn. Manylir hefyd ar strategaethau, sancsiynau a chanlyniadau cyfreithiol posibl Presenoldeb a Phrydlondeb gwael, yn ogystal â manteision presenoldeb da. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu, ei ddiwygio yn ôl yr angen a'i gyhoeddi'n flynyddol yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau cyfredol.
Yn yr adran yma: