Ysgol Dyffryn Nantlle

Hafan > Disgyblion > Prif Ddisgyblion

Prif Ddisgyblion

Anrhydedd ydy cael cyflwyno tîm Ysgol Dyffryn Nantlle o Brif Ddisgyblion a Dirprwy Brif Ddisgyblion i'ch sylw. Y Prif Fachgen ydy Joshua Williams a’r Brif Ferch ydy Elan Williams ac yn gweithio’n agos gyda nhw bydd Osian Parry, Gruff Larsen a Sioned Ross fel Dirpwy Brif Ddisgyblion.

Hoffem longyfarch pob un ohonynt ar y fraint o gael eu hethol i fod yn aelod o’r tîm o Brif Ddisgyblion ac edrychwn ymlaen yn fawr at gyd-weithio gyda nhw i wireddu gweledigaeth yr ysgol, sef; Creu ysgol uwchradd gynhwysol unigryw sy’n sicrhau llwyddiant personol i’w holl ddisgyblion a’i staff mewn awyrgylch gefnogol a diogel.

“Nunlle fel Nantlle”

Llwyddo Gyda’n gilydd!