Hafan > Gwybodaeth > Cwpwrdd Bwyd
Cwpwrdd Bwyd
Rydym ni yn aelodau o Gyngor Ysgol, Ysgol Dyffryn Nantlle, ac rydym ni angen eich help chi. Ein bwriad ydy dechrau ‘Cwpwrdd Bwyd’ yn yr ysgol. Cwpwrdd bwyd ydy ein syniad ni o rywbeth tebyg i fanc bwyd. Gyda chostau byw yn cynyddu, a bwyd yn un o’n costau mwyaf hanfodol, gall teuluoedd gael mynediad at ein Cwpwrdd Bwyd, ble y byddant yn derbyn bocs gyda gwahanol fwydydd.
Oes gennych chi un neu ddau o diniau sbar yn eistedd yng nghefn eich cwpwrdd? Buasem yn hynod o ddiolchgar i dderbyn bwyd at ein cynllun. Buasem yn ddiolchgar iawn o unrhyw un o’r canlynol:
- Tuniau ffrwythau a llysiau
- Tuniau pysgod a chig
- Saws pasta
- Pwdin reis
- Ffa-pob
- Pasta
- Reis
- Grawnfwyd
- Tuniau sŵp
- Siwgr
- Coffi
- Te
- Bisgedi
- Unrhyw beth sydd gyda dyddiad go dda arno!
Bydd bocs pwrpasol yn cael ei gadw yn y swyddfa os ydych yn dymuno cyfrannu. Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth ac eich haelioni yn fawr iawn. Diolch