Hafan > Disgyblion > Adnoddau Darllen Digidol
Adnoddau Darllen Digidol
Mae eich plentyn wedi derbyn ei Gofnod Darllen er mwyn cofnodi’r darllen a wna ers tymor cyfan bellach. Er mwyn hyrwyddo a hwyluso’r broses o ddarllen er mwyn pleser gartref, rydym wedi creu rhestr o wefannau addas ar eu cyfer.
Gall eich plentyn glicio ar unrhyw un o’r botymau isod ar ei ffôn neu ddyfais symudol, dewis erthygl i’w darllen ac yna cofnodi’r hyn a ddarllenwyd yn ei Gofnod Darllen:
‘Cliciwch, Darllenwch, Cofnodwch.’
Hyderwn y bydd y ddarpariaeth ychwanegol hon yn ennyn mwy o ddiddordeb mewn darllen.
A fuasech chi cystal â sicrhau bod eich plentyn yn treulio o leiaf 10 munud y dydd yn darllen yn y ddwy iaith ac yn cofnodi’r darllen yn y llyfryn. Gofynnwn yn garedig hefyd i chi fel rhieni lofnodi’r Cofnod Darllen yn wythnosol os gwelwch yn dda.
Cofiwch gysylltu â’r ysgol os cyfyd unrhyw gwestiwn neu bryder, ac fe wnawn bopeth o fewn ein gallu i’ch cynorthwyo.